Numbers 26

Yr ail gyfrifiad

1Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad: 2“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.”

3Ar y pryd roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw, 4“Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn i Moses.

A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft:

Llwyth Reuben

5O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) – disgynyddion Hanoch, Palw, 6Hesron, a Carmi. 7Cyfanswm Reuben oedd 43,730. 8(Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw, 9sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr Arglwydd. 10A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni. 11Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.)

Llwyth Simeon

12O lwyth Simeon – disgynyddion Nemwel, Iamin, Iachin, 13Serach, a Saul. 14Cyfanswm Simeon oedd 22,200.

Llwyth Gad

15O lwyth Gad – disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni, 16Osni, Eri, 17Arod ac Areli. 18Cyfanswm Gad oedd 40,500.

Llwyth Jwda

19Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan. 20O lwyth Jwda – disgynyddion Shela, Perets, a Serach. 21Ac o Perets – disgynyddion Hesron a Chamŵl. 22Cyfanswm Jwda oedd 76,500.

Llwyth Issachar

23O lwyth Issachar – disgynyddion Tola, Pwa, 24Iashŵf, a Shimron. 25Cyfanswm Issachar oedd 64,300.

Llwyth Sabulon

26O lwyth Sabulon – disgynyddion Sered, Elon a Iachle-el. 27Cyfanswm Sabulon oedd 60,500.

Llwythau Manasse ac Effraim

28Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff. 29O lwyth Manasse – disgynyddion Machir a'i fab Gilead. 30O Gilead – disgynyddion Ieser, Chelec, 31Asriel, Sechem, 32Shemida a Cheffer. 33(Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.) 34Cyfanswm Manasse oedd 52,700.
35O lwyth Effraim – disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan. 36Ac o Shwtelach – disgynyddion Eran. 37Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.

Llwyth Benjamin

38O lwyth Benjamin – disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram, 39Sheffwffâm, a Hwffam. 40Wedyn o feibion Bela – disgynyddion Ard a Naaman. 41Cyfanswm Benjamin oedd 45,600.

Llwyth Dan

42O lwyth Dan – disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan, 43a'i cyfanswm nhw oedd 64,400.

Llwyth Asher

44O lwyth Asher – disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia. 45Wedyn o feibion Bereia – disgynyddion Heber a Malciel. 46Roedd gan Asher ferch hefyd, sef Serach. 47Cyfanswm Asher oedd 53,400.

Llwyth Nafftali

48O lwyth Nafftali – disgynyddion Iachtseël, Gwni, 49Jeser, a Shilem. 50Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.

Crynodeb

51Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.

52Yna dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 53“Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma. 54Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma. 55Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael. 56Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”

Llwyth Lefi

57A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari. 58A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram, 59ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer. 60Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar. 61Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r Arglwydd.
26:61 Nadab ac Abihw … i'r Arglwydd gw. 3:1-4 a Lefiticus 10:1,2.
62Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel, am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.

63Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad, pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. 64Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma, wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai. 65Roedd yr Arglwydd wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.

Copyright information for CYM